Mae’r penderfyniad i ehangu ysgol Gymraeg yn ardal Y Barri wedi cael croeso gan ymgyrchwyr.

Fe gymeradwyodd Cabinet Cyngor Bro Morgannwg gynnig ddoe (dydd Llun, Gorffennaf 29) sy’n cynnwys ehangu darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal trwy gynyddu capasiti Ysgol Sant Baruc o 210 i 420 o leoedd.

Bydd staff a disgyblion hefyd yn cael eu symud o’r safle bresennol i’r adeilad ysgol newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn rhan o ddatblygiad y Glannau, ym mis Medi 2021.

Mae’r grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn disgrifio’r cam fel un “arwyddocaol iawn” yn hanes addysg Gymraeg y rhanbarth.

“Bydd hyn yn caniatáu i Ysgol Sant Baruc gael ei adleoli i adeilad sy’n addas a phwrpasol ac yn sicrhau bod holl blant y Barri o fewn pellter cerdded ysgol gynradd Gymraeg, gan gynnwys plant Ynys y Barri, a hynny am y tro cyntaf erioed,” meddai Mark Bowen ar ran RhAG Bro Morgannwg.

“Rydym yn diolch i Gabinet Cyngor Bro Morgannwg am eu gweledigaeth: mae’n ddiwrnod da iawn i Ysgol Sant Baruc ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg yn Y Barri.”