Gweithgaredd TYFU yn Aberystwyth (o wefan Oxfam Cymru)
Mae rhai o’r bobol dlota’ yng Nghymru’n gorfod colli prydau bwyd er mwyn gwneud yn siŵr fod eu teuluoedd yn cael eu bwydo, meddai elusen.

Yn ôl Oxfam Cymru mae’r cynnydd ym mhrisiau bwyd yn effeithio’n arbennig o ddrwg ar bobol sydd o dan ffin tlodi … gan eu gorfodi i brynu llai o fwyd, i wario canran uwch o’u harian ar fwyn neu i brynu bwyd salach.

Dyna ganlyniadau pôl piniwn a gafodd ei gomisiynu gan yr elusen ar gyfer Diwrnod Bwyd y Byd, ddydd Sul. Mae Dydd Llun hefyd yn ddiwrnod dileu tlodi rhyngwladol.

Yr ymchwil

Dyma rai o’r prif ystadegau.

  • Mae mwy na phedwar o bob pump o bobol ar incwm isel yng Nhgymru (83%) yn dweud eu bod wedi gorfod gwario mwy ar fwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
  • Mae un ym mhob pedwar  (25%) o’r rhai gafodd eu holi yn gwario £40 yr wythnos neu lai ar fwyd, y canran uchaf ym Mhrydain.
  • Roedd ychydig o dan un ym mhob pump yng Nghymru (19%) yn dweud fod ansawdd y bwyd y maen nhw’n ei fwyta wedi gostwng dros y 12 mis diwethaf.
  • Roedd 7% yn dweud eu bod wedi gorfod colli pryd dros y 12 mis diwethaf er mwyn i’w teuluoedd gael bwyta.

Profiad mam…

Yn ôl Joanne Ferguson, mam sengl i dair o Duffryn yng Nghasnewydd, mae’n gorfod cyfaddawdu o hyd ac o hyd i fwydo’i theulu o bedwar a hynny ar tua £15 yr wythnos yr un.

“Dw i’n gwario dros drydydd rhan o fy incwm ar fwyd bob wythnos,” meddai. “Mae cost byw yn gyffredinol, bwyd a biliau wedi codi a dyw incwm ddim, felly dyw’r cydbwysedd ddim yn iawn.

“Dw i’n tueddu i edrych am unrhyw beth sy’n fargen neu ar offer fel buy one get one free a dw i’n prynu bwyd i’w rewi hefyd,” meddai.

Dywedodd bod ei phlant yn gwybod ei bod yn dioddef. “Mae fy merch hynaf ar gwrs ac yn cael £30 yr wythnos, felly mae’n prynu ei dillad ei hun.”

“Mae’r ferch ganol yn ofalus iawn gydag unrhyw arian poced mae’n ei gael gan ei thad-cu a’i mam-gu a dim ond ar bethau angenrheidiol y bydd hi’n gwario. Fydd hi ddim yn prynu losin.”

‘Realiti’

Fe ddywedodd Chris Johnes, Pennaeth Oxfam Cymru fod y ffigyrau hyn yn pwysleisio “realiti” y cynnydd ym mhris bwyd bwyd ac yn dangos fod deiet pobl yn newid  – ac i lawer gormod o bobol bod hynny “er gwaeth”.

Mae disgwyl i’r broblem gynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf, meddai.

“Mae nifer enfawr o bobol fregus yng Nghymru ac yng ngwledydd tlotaf y byd yn torri’n ôl ar faint o fwyd y maen nhw’n ei brynu ac ar ansawdd y bwyd y maen nhw’n ei fwyta oherwydd prisiau cynyddol bwyd.”

Mae cyhoeddi’r pôl hwn yn rhan o TYFU, un o ymgyrchoedd mwyaf Oxfam erioed  sy’n galw am system fwyd byd-eang mwy teg.