Roedd bws y Blaid Brexit a gafodd ei adael ar ochr y ffordd yn Sir Frycheiniog “wedi torri i lawr”, yn ôl ei berchnogion.

Cafodd y bws ei ganfod yn hwyr y nos gan newyddiadurwraig BBC Cymru, Sue Charles, a nododd fod drysau’r cerbyd ar agor gyda neb ar gyfyl y lle.

Ar ôl i luniau o’r bws ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos, mae rhai pobol wedi bod yn dyfalu mai ymgais gan y Blaid Brexit i ddenu cyhoeddusrwydd oedd y digwyddiad.

Ond mae llefarydd ar ran y blaid wedi wfftio’r awgrym hwnnw, gan ddweud bod gyrrwr y bws wedi gorfod ei adael ar ochr y ffordd oherwydd methiant peiriannol.

“O ganlyniad i gyfres o ffactorau, bu’n rhaid i’r bws gael ei adael mewn man rhyfedd,” meddai’r llefarydd.

Cafodd y cerbyd ei gludo’n ddiweddarach i garej yng Nghaerdydd, ac mae bellach wedi cael ei drwsio, meddai’r llefarydd wedyn.

Mae’r Blaid Brexit wedi bod yn ymgyrchu yn yr ardal y bannau ar drothwy isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed, a fydd yn cael ei gynnal yr wythnos hon (dydd Iau, Awst 1).

Yn ôl Richard Taylor, un o ymgyrchwyr y blaid, roedd y bws yn dychwelyd i Lundain “ar ôl i’r tîm gwblhau diwrnod llawn o ymgyrchu llwyddiannus gydag ymateb da”.