Mae ditectifs wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 49 oed o Gastell-nedd.

Roedd Heddlu De Cymru wedi cael gwybod ym mis Ionawr 2018 bod Richard Andrews, o ardal Melyn yn y dref, ar goll er mae’n debyg mai’r tro diwethaf iddo gael ei weld yn fyw oedd ar Fedi 16, 2017.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn, Medi 29 2018, ar lannau’r Afon Nedd.

“Ymchwiliwyd yn drylwyr i amgylchiadau marwolaeth Richard Andrews ac rydym bellach yn amau ei fod wedi cael ei lofruddio,” dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Darren George.

“Roedd Richard yn gymeriad adnabyddus yn ardal Castell-nedd, lle gallai rhai pobl fod wedi ei adnabod trwy ei lysenw ‘Monkey’.”

“Roedd Richard yn unigolyn bregus a chredaf y gallai rhai fod wedi cymryd mantais ohono. Ar adeg ei ddiflaniad credir ei fod yn ymwneud ag unigolion o ardal Lerpwl, a oedd yn delio â chyffuriau o gwmpas ardaloedd Castell-nedd a Llansawel.”

Mae’r heddlu wedi apelio am gymorth gan y gymuned leol.

Mae Taclo’r Taclau yn cynnig gwobr o hyd at £10,000 am wybodaeth yn ymwneud ag arestio a dedfrydu’r person neu bobol sy’n gyfrifol am ladd Richard Andrews. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111  neu’r heddlu ar 101.