Mae Boris Johnson wedi galw am “adfer y cysylltiadau sy’n uno’r Deyrnas Gyfunol” wrth iddo deithio i’r Alban i gyhoeddi £300m o arian newydd ar gyfer y gwledydd sydd wedi’u datganoli.

Dyma fydd ymweliad swyddogol cyntaf Boris Johnson i’r Alban ar ôl ei apwyntio’n Brif Weinidog a bydd yn cyhoeddi cynlluniau i ehangu’r Fargen Twf mewn rhannau o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Dywed arweinydd y Ceidwadwyr ei fod eisiau sicrhau nad oes unrhyw ran o’r Deyrnas Gyfunol yn cael ei gadael ar ôl.

Cyn ei ymweliad ddydd Llun (Gorffennaf 29) dywed Boris Johnson hefyd fod y Deyrnas Gyfunol yn “frand rhyngwladol” ac “wrth i ni baratoi ar gyfer dyfodol llewyrchus wedi Brexit, mae’n hanfodol ein bod ni’n adnewyddu’r cysylltiadau sy’n uno’r Deyrnas Gyfunol”.

Mae Rhif 10 hefyd wedi cadarnhau bod y Prif Weinidog yn bwriadu cwrdd â ffermwyr yng Nghymru,ac ymweld â Gogledd Iwerddon.

“Addewidion gwag”

Mae’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb wedi arwain at ddyfalu o’r newydd am ddyfodol yr Undeb.

Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yn adolygu’r amserlen ar gyfer refferendwm posib am annibyniaeth i’r Alban. Eisoes mae Nicola Sturgeon a Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi rhybuddio Boris Johnson a byddai’n “afresymol” i’r Deyrnas Gyfunol adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

O dan gynlluniau’r Fargen Twf fe fydd yr arian yn mynd tuag at gynlluniau yng nghanolbarth Cymru, yn ogystal â’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl Boris Johnson fe fydd yn rhoi’r cyfle i “bob cornel o’r Deyrnas Gyfunol wireddu eu potensial.” Ond mae arweinydd Llafur yn yr Alban Richard Leonard wedi dweud mai “addewidion gwag” yw’r cynnig newydd.

Paratoadau

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflymu’r paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb. Ddydd Sul, roedd Boris Johnson wedi sefydlu rhwydwaith o bwyllgorau dan arweinid Michael Gove er mwyn sicrhau bod Brexit yn cael ei gwblhau erbyn Hydref 31.

Ond mae’r Prif Weinidog yn wynebu cyfarfod anodd gydag arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban, Ruth Davidson ar ôl iddi hi gyhoeddi y byddai’n gwrthwynebu Brexit heb gytundeb.