Cyngor Nyrsio a Bydwreicaeth (o wefan y Cyngor)
Roedd nyrs ardal sydd wedi’i chyhuddo o gael rhyw gyda bachgen 14 oed wedi gadael i’w frawd iau yrru ei char gwaith ar ôl iddo yfed 16 can o gwrw, yn ôl tystiolaeth i banel safonau proffesiynol.

Roedd y bachgen ieuengaf wedi cael sesiynau cwnsela arno ar ôl iddo darfu ar ei frawd mawr a’r nyrs yn cael rhyw.

Fe gafodd ei wahardd o’r gwrandawiad ddoe ar ôl iddo fygwth cyfreithiwr. Roedd wedi dweud wrth y panel fod y digwyddiadau wedi effeithio arno.

Mae’r nyrs ardal, Victoria Horsley, 36, o Fenllech yn Sir Fôn, wedi’i chyhuddo o gael rhyw gyda’r brawd hŷn sy’n cael ei alw yn ‘Plentyn A’. Mae hi’n gwadu hynny.

‘Llefydd anghysbell’

Fe glywodd panel y Cyngor Nyrsio a Bydwreicaeth ei bod wedi gyrru’r bachgen i lefydd anghysbell ar lan y môr i gael rhyw, a hynny ar ddeg achlysur gwahanol.

Roedd y nyrs, sy’n fam i ddau o blant, yn gweithio ar gytundeb tair blynedd i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gogledd Orllewin Cymru yn ystod y berthynas honedig.

Fe allai Victoria Horsley gael ei diarddel o’i gwaith os yw’r panel, sy’n cwrdd yng Nghaerdydd, yn dyfarnu yn ei herbyn.

Mae hi’n gwadu cael perthynas gyda Phlentyn A rhwng 2005 a 2008. Mae hefyd yn gwadu gadael i’r brodyr yrru ei char gwaith rhwng 2005 a 2007.

Mae hefyd yn gwadu cyhuddiadau eraill o gadw cysylltiad â’r teulu yn groes i gyngor proffesiynol ac o adael i drydydd plentyn yrru ei char.

Mae’r achos yn parhau.