Jill Evans
Fe allai un o bob tri ffermwr yng Nghymru golli arian oherwydd cynlluniau newydd ar gyfer grantiau o Ewrop, meddai Plaid Cymru.

Er ei bod yn croesawu’r ffaith fod grantiau uniongyrchol o dan y Polisi Amaeth Cyffredinol – CAP – yn parhau, mae Aelod Seneddol Ewropeaidd y blaid yn rhybuddio bod newidiadau’n ormod ac yn rhy gyflym.

Fe allai cymaint â thraean ffermwyr Cymru fod yn colli tua 10% o’u hincwm, meddai Jill Evans gan alw’r newid yn “ymosodiad pellach ar eu hincwm” ac ar gymunedau gwledig.

‘Oblygiadau difrifol’

“Er fy mod yn falch y bydd taliadau hanfodol i ffermwyr yn parhau, gallai’r newidiadau arfaethedig fod ag oblygiadau difrifol iawn i ffermwyr Cymru,” meddai Jill Evans.

“Rwy’n falch fod llywodraeth glymblaid y ConDemiaid yn Llundain wedi methu yn eu hymdrechion i gael gwared o daliadau uniongyrchol yn gyfan gwbl.”

Mae Llywydd undeb amaeth yr NFU yng Nghymru, Ed Bailey, hefyd wedi codi amheuon am y bwriad i symud mwy eto at reolau amgylcheddol, gan gynnwys cadw tir yn segur.

Ac fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog tros Amaeth y byddai newid at dalu fesul ardal a’r gofynion ‘gwyrdd yn “sialens anodd” i Gymru a ffermio yng Nghymru.

Ond roedd Alun Davies hefyd yn croesawu’r ffaith bod y manylion yn aros yn nwylo’r Llywodraeth yng Nghaerdydd.