Tafarn Sinc a hanesydd y Sin Roc Gymraeg yn cefnogi Meic Stevens

Diweddarwyd  

Meic Stevens yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011

Llun: Llywelyn2000 CC SA 2.0 trwy Gomin Wicimedia

Mae un o haneswyr y sin roc Gymraeg wedi mynegi cefnogaeth agored i Meic Stevens, wedi’r storm am sylwadau gafodd eu gwneud yn ystod gig gan y ‘Swynwr o Solva’ mewn gwyl yng Nghaernarfon ddechrau’r mis.

Mewn neges i’r byd ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Hefin Wyn, awdur llyfrau a chyn-golofnydd ac adolygydd ym mhapur Y Cymro ar y sin roc, fe fydd Tafarn Sinc yn Rosebush yn cynnig croeso i Meic Stevens trwy’r haf – tra bod rhai gwyliau cerddorol wedi canslo gigs.

Roedd dau gerddor – y naill yn gantores ifanc o Gaernarfon, a’r llall yn offerynnwr mwy profiadol – wedi ymateb yn feirniadol i stori yr oedd Meic Stevens wedi’i rhannu yn ystod cyngerdd yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, yn ystod Gwyl Arall ar ddydd Sul, Gorffennaf 14.

Fe arweiniodd hynny at drafodaeth danllyd ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag eitemau ar raglenni newyddion ar radio a theledu, ynghyd â thrafod ar Radio Cymru. Sesiwn Fawr Dolgellau oedd un o’r gwyliau mawr i ganslo slot oedd wedi ei rhoi i Meic Stevens dros y penwythnos diwethaf.

Penwythnos yn Tafarn Sinc 

“Hwyrach nad oes croeso i Meic Stevens mewn rhai mannau wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam o wneud sylw hiliol wrth berfformio ond mae llond gwlad o groeso iddo yn Nhafarn Sinc,” meddai Hefin Wyn ar ei dudalen Facebook.

“Galwch heibio,” meddai wedyn, gan ddweud y bydd yn perfformio trwy’r penwythnos a thros yr haf  “Ni all neb gymryd ei ganeuon oddi arno.”

Hwyrach nad oes croeso i Meic Stevens mewn rhai mannau wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam o wneud sylw hiliol wrth…

Posted by Hefin Wyn on Friday, July 26, 2019

Y cefndir 

Mae Meic Stevens wedi gwrthod yr honiad ei fod yn hiliol trwy adrodd am ei brofiad yn mynd â’i wyres i’r ysgol yng Nghaerdydd wrth y gynulleidfa fawr yng Nghaernarfon. Mae ei ymateb i golwg360 yn fan hyn.

Cymru

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones