Airbus A350 (o wefan y cwmni)
Fe fydd y ffatri fwya’ i’w chodi yng ngwledydd Prydain yn ystod y pum mlynedd diwetha’n cael ei hagor yn y Gogledd-ddwyrain heddiw.

Fe fydd 650 o bobol yn cael eu cyflogi yn yr adran newydd o waith y cwmni awyrennau Airbus ym Mrychtyn ar Lannau Dyfrdwy.

A’r gred yw y bydd y ffatri newydd hefyd yn helpu i ddiogelu’r 6,000 o swyddi sydd ar y safle cyfan – y gwaith cynhyrchu mwya’ yn y Deyrnas Unedig.

Fe fydd y ffatri newydd yn adeiladu adenydd ar gyfer awyren newydd y cwmni, yr A350 sydd i fod i hedfan am y tro cynta’ yn 2013.