Rhif Deg
Fe fydd y Ddraig Goch yn hedfan uwchben rhif 10 Downing Street ddydd Sadwrn wrth i Gymru wynebu Ffrainc yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd.

Fe ddywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ei fod am fynd yn groes i gonfensiwn a chodi’r faner ar gyfer y gêm.

“Fel rheol fydden ni ddim ond yn codi baner un o’r gwledydd cartref ar gyfer rownd derfynol ond rwy’n gwybod pa mor bwysig yw’r gystadleuaeth hon,” meddai.

“Rydyn ni i gyd eisiau cefnogi Cymru, felly rwy wedi penderfynu torri ar y traddodiad y tro yma a hedfan y faner tros Gymru yn Downing Street ddydd Sadwrn.”

‘Elwa gwleidyddol’

Ddoe, roedd AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, wedi gofyn i Ysgrifennydd Cymru argymell codi’r faner wrth David Cameron.

Roedd hithau wedi cefnogi’r syniad a dweud y byddai’r Ddraig Goch yn hedfan uwch Swyddfa Cymru yn Llundain hefyd.

Cymysg yw’r ymateb ar y stryd a’r blogfyd i’r newyddion – roedd rhai blogwyr wedi bod yn proffwydo ers dyddiau y byddai gwleidyddion yn bachu ar Gymru i wneud elw gwleidyddol.

Tîm Cymru

Fydd Rhys Priestland ddim yn y tîm i wynebu Ffrainc ar ôl i’w ysgwydd fethu â gwella mewn pryd.

James Hook fydd yn safle’r maswr, gyda Stephen Jones ar y fainc – yr unig newid yn y garfan a gurodd Iwerddon yn rownd yr wyth olaf;.

Newyddion y tîm yn llawn yn yr Adran Chwaraeon.