Fe fydd yr ymchwiliad i sgandal gwaed wedi’i heintio yn parhau am yr ail ddiwrnod heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 24), wrth i ddwy wraig a gollodd eu gwŷr roi tystiolaeth yng Nghaerdydd.

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn clywed gan ddyn a gadwodd ei ddiagnosis o hepatitis C yn gyfrinachol am 34 o flynyddoedd.

Byddan nhw’n disgrifio’r effaith gafodd trallwysiadau gwaed ar eu bywydau, yn sgil helynt a welodd cleifion yn derbyn gwaed heintiedig yn y 1970au a’r 1980au.

Mae lle i gredu bod yr helynt wedi arwain at farwolaeth 2,400 o bobol.

Tystiolaeth

Ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 23), clywodd yr ymchwiliad gan Karisa Jones, a gollodd ei gŵr Geraint yn 2012 o ganlyniad i hepatitis C.

Fe gollodd ei goes yn dilyn damwain tryc yn 1990 ac ar ôl sawl trallwysiad gwaed, fe drosglwyddodd e’r haint i’w wraig.

Ar ôl bod yn chwydu gwaed, cafodd y ddau gyfarfod â meddygon a chael gwybod fod gan Geraint Jones diwmor ar ei afu a bod ganddo fe fisoedd yn unig i fyw.

Bu farw’n 50 oed ar Fedi 28, 2012, lai na chwe mis ers ei ddiagnosis ac fe ddaeth y cwest i’w farwolaeth i’r casgliad iddo farw o sgil effeithiau hepatitis C ar ei afu.

Mae Karisa Jones yn dadlau bod meddygon wedi colli cyfle i roi diagnosis iddi hi yn 2000, a fyddai wedi achub bywyd ei gŵr.

Achos Gerald Stone, dyn 75 oed

Mae’r ymchwiliad hefyd wedi clywed gan Gerald Stone, dyn 75 oed o Donyrefail, a gadwodd ei ddiagnosis yn dawel am 34 o flynyddoedd.

Doedd ei wraig na’i blant ddim yn gwybod yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedd angen trallwysiadau gwaed arno er mwyn trin afiechyd y gwaed, ac fe ddywedodd iddo gael ei heintio yn 1985 pan gafodd e waed o’r Unol Daleithiau.

Dangosodd tri phrawf rhwng 1990 a 1992 fod ganddo fe hepatitis C, ond chafodd e ddim diagnosis tan 1993.

Ers cael gwybod yn 2016 nad oes ganddo fe’r haint bellach, fe fu’n ymgyrchu am iawndal i ddioddefwyr hepatitis C o ganlyniad i waed heintiedig.

Les Sparks

Bu farw Les Sparks o HIV yn 58 oed yn 1990.

Mae ei wraig Sue yn dweud iddo fe gael ei heintio ar ôl trallwysiad yn 1984, a doedd e ddim yn ymwybodol ei fod e wedi cael profion HIV ac AIDS cyn marw ym mis Medi 1985.

Mae hi’n dweud bod yr helynt a’r pwysau wedi achosi rhwyg â’u dau o feibion.

Yr ymchwiliad

Syr Brian Langstaff, cyn-farnwr yr Uchel Lys, sy’n cadeirio’r ymchwiliad.

Mae e wedi addo rhoi pobol wrth galon yr ymchwiliad y mae’n ei alw’r “trychineb triniaeth mwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd”.

“Does gyda ni ddim y moethusrwydd o lawer iawn o amser, oherwydd mae pobol yn parhau i ddioddef a marw,” meddai am yr ymchwiliad.

“Ond fe fydd y rhai nad ydyn nhw’n cael eu clywed ar lafar yr wythnos hon, a’r rhai mewn canolfannau eraill a hoffai gael eu clywed ond nad oes amser ar eu cyfer nhw i siarad ar lafar, yn cael eu clywed.”

Mae ymchwiliadau blaenorol yn Llundain, Belffast, Leeds a Glasgow wedi cael eu beirniadu gan ymgyrchwyr.