Simon Thomas
Mae Simon Thomas AC wedi galw am well gwasanethau trên ar hyd lein canolbarth Cymru heddiw, er mwyn ateb y galw cynyddol.

Bu’r Aelod Cynulliad dros ganolbarth a gorllewin Cymru yn cwrdd â’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau heddiw, er mwyn pwyso am well cysylltiadau trên rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad ei bod hi’n bwysig datblygu gwasanaeth y Cambria er mwyn sicrhau bod gan Gymru wasanaeth drafnidiaeth gyhoeddus “sydd wir yn uno Cymru.”

Daw’r cyfarfod wythnosau’n unig cyn i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, gyhoeddi ei gynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

‘Gwasanaeth bob awr’

Mae Simon Thomas yn galw am gynyddu’r gwasanaeth, sy’n rhedeg bob dwy awr ar hyn o bryd, fel bod gwasanaeth bob awr yn mynd o Aberyswyth ar yr adegau brig.

“Mae angen bod yn realistig,” meddai’r Aelod Cynulliad, “dydw i ddim yn galw am wasanaeth bob awr trwy’r dydd, ond yn sicr ar yr adegau prysuraf.”

Dywedodd wrth Golwg 360 fod y gwasanaeth presennol wedi cael ei gynllunio ar sail rhagolygon defnydd a wnaed deg mlynedd yn ôl, ac sydd lawer yn is na’r nifer sydd bellach yn defnyddio’r gwasanaeth.

“Mae’r nifer sy’n defnyddio’r lein 40% yn uwch nag oedden nhw wedi ei ddisgwyl wrth wneud rhagolygon defnydd 10 mlynedd yn ôl,” meddai.

Datblygu ar fuddsoddiad

Mae buddsoddiad helaeth eisoes wedi cael ei wneud ar system signalau’r lein rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, ac fe fyddai cynyddu’r gwasanaeth ar y lein yn ddatblygiad naturiol yn sgil hynny, yn ôl Simon Thomas.

“Mae buddsoddiad mawr wedi bod ar y lein yn barod,” meddai, “ond does dim pwynt cael buddsoddiad yn y lein os nad oes mwy o ddefnydd yn mynd i gael ei wneud ohoni.”

Mae’r Aelod Cynulliad hefyd yn credu y byddai datblygu’r gwasanaeth yn dod â manteision economaidd i ardal Aberystwyth, trwy dwristiaeth a diwydiant.

“Mae ’na amcan i ail-agor yr orsaf yn Bow Street, er mwyn creu gwasanaeth cymudo i Aberystwyth, ond bydd yn rhaid cael gwasanaeth mwy cyson er mwyn gwneud hynny.”

Ymateb cadarnhaol

Dywedodd Simon Thomas fod y Gweinidog wedi rhoi ymateb cadarnhaol iawn i’w alwadau am gynyddu’r gwasanaeth rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, a’i fod yn ffyddiog fod datblygiadau ar y lein “o fewn ein gafael erbyn hyn.”

Mae disgwyl i Carl Sargeant gyhoeddi ei Gynllun Drafnidiaeth Genedlaethol ddiwedd fis nesaf.