Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau bod dyn wedi marw mewn ffrwydrad mewn garej ar stad o dai ym Mhont-y-pŵl bore ma (dydd Llun, Gorffennaf 22).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad yn ardal Coed Camlas tua 11.10yb bore ma yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad yno.

Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ac nid yw achos ei farwolaeth yn hysbys ar hyn o bryd. Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu ei fod yn rhy gynnar i ddweud a yw’r farwolaeth yn un amheus.

Mae perchnogion yr adeilad yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt arbenigol.

Nid yw’n glir eto beth achosodd y ffrwydrad ar y stad o dai ger cylchfan yr A4042, ond mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd Heddlu Gwent bod y gwasanaethau brys, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans De Cymru, yn y lleoliad ar hyn o bryd ac y byddan nhw’n parhau yno am weddill y dydd.

“O ganlyniad i’r ffrwydrad, achoswyd difrod sylweddol i’r adeilad ac mae’r ardal wedi cael ei chau ar hyn o bryd,” meddai’r heddlu.