Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio wedi ffrwydrad  mewn garej ym Mhont-y-pŵl bore ma (dydd Llun, Gorffennaf 22).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r adeilad yn ardal Coed Camlas tua 11.10yb bore ma yn dilyn adroddiadau o ffrwydrad yno.

Nid yw’n glir eto beth achosodd y ffrwydrad ar y safle ger cylchfan yr A4042, ond mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywedodd Heddlu Gwent: “Mae’r gwasanaethau brys, gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans De Cymru, yn y lleoliad ar hyn o bryd.

“O ganlyniad i’r ffrwydrad, achoswyd difrod sylweddol i’r adeilad ac mae’r ardal wedi cael ei chau ar hyn o bryd.”

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.