Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi bron i £1m er mwyn helpu gydag amaeth pan ddaw Brexit.

Bydd yr arian ar gael drwy’r Gronfa Bontio Ewropeaidd er mwyn helpu gydag amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd i ymateb i’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n dod gydag ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd yr arian ei gyhoeddi gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ar ddechrau canfed Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22).

Yn ôl Lesley Griffiths mae angen “parhau i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit” ar ben “sefydlu cynlluniau er mwyn sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer amaethyddiaeth.”

Fe fydd y cyllid yn mynd at gefnogi’r sectorau i gynllunio yn fwy effeithiol, at faterion iechyd meddwl a llesiant ac at ddatblygu cyfleoedd marchnata.

Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy hefyd yn gwobrwyo ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol a bydd yn gwarchod y tir a’r amgylchedd er lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Cyfnod ansicr”

 Roedd y Llywodraeth wedi disgwyl y byddai gwledydd Prydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd adeg y sioe’r llynedd, meddai Lesley Griffiths.

“Yn anffodus, fodd bynnag, rydym yn wynebu cyfnod cwbl unigryw a chynyddol ansicr,” meddai.

“Heb unrhyw amheuaeth bydd ymadael heb gytundeb yn gwbl drychinebus i’r sector ac mae’n rhaid i ni geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio osgoi hyn.

“Ni allwn, fodd bynnag, anwybyddu’r ffaith bod ymadael heb gytundeb yn debygol iawn ac mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl.

Mae’r Gronfa Pontio Ewropeaidd gwerth £50 miliwn eisoes yn helpu busnesau, sectorau allweddol a sefydliadau partner i baratoi ar Brexit.

Ymgynghoriad bwyd a diod

Ddydd Mawrth bydd y Gweinidog yn lansio ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu nesaf ar gyfer bwyd a diod 2020-2026.

Mae’r ymgynghoriad yn edrych ar sut y bydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r sector er mwyn cyflawni tri nod:

  • ‘Datblygu busnes’ – Ehangu cwmpas a gwerth y sector, a chynhyrchiant busnesau;
  • ‘Sicrhau budd i’n pobl a’n cymdeithas’ – yn helpu busnesau i sicrhau manteision ehangach drwy waith teg, meithrin sgiliau a defnyddio adnoddau mewn modd cynaliadwy.
  • Hyrwyddo Cymru fel gwlad fwyd – tynnu sylw at y sector, datblygu a chyflawni ein safonau uchel a dathlu llwyddiant.