Wrth i gyflogau athrawon gael eu datganoli i Gymru am y tro cyntaf, daw’r newyddion heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22) am godiad cyflog o 5% i athrawon sydd newydd gymhwyso.

Yn ogystal, bydd cynnydd mewn cyflog i bob athro ysgol arall o 2.75%, yn ôl y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Mae’r cyhoeddiad yn cyd-daro â chyhoeddi adroddiad cyntaf Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol newydd Cymru, a gyflwynodd argymhellion ynghylch cyflogau ac amodau athrawon o fis Medi 2019, yn sgil datganoli’r pwerau hynny y llynedd.

Cynhelir ymgynghoriad wyth wythnos i randdeiliaid gael ymateb i’r cynigion.

“Safon uchel”

“Dw i am barhau i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn sy’n denu graddedigion a’r rheini sydd am newid gyrfa,” meddai Kirsty Williams.

“Dyna pam rydyn ni’n cynnig codi isafswm pwynt cyflog athrawon 5%. Bydd yn ein helpu i barhau i ddenu athrawon o safon uchel i’r proffesiwn.

“Wrth i ni ddefnyddio ein cyfrifoldebau datganoledig am y tro cyntaf eleni, dw i hefyd  yn cynnig codiad cyflog o 2.75% i bob athro ysgol yng Nghymru o fis Medi ymlaen.

“Ynghyd â’n camau i ddiwygio dysgu proffesiynol, y cwricwlwm a hyfforddiant athrawon, bydd hyn yn cael effaith bositif ar sicrhau ein bod ni’n parhau i ddenu athrawon o safon uchel i’r proffesiwn yng Nghymru.”