Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi y bydd hyd at £58m yn cael ei fuddsoddi ar gyfer uwchraddio gorsaf drenau ganolog Caerdydd.

“Mae teithwyr yng Nghaerdydd yn haeddu gorsaf fodern a hygyrch yng nghanol eu dinas fywiog,” meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling.

“Mae gan y cyllid hwn y potensial i gyflawni hynny, gan sicrhau teithiau mwy dibynadwy, cyfforddus a chyflymach i mewn ac allan o’r brifddinas.

Mae’r buddsoddiad hwn yn ychwanegol at y £5biliwn y mae Llywodraeth Prydain yn ei fuddsoddi i wella siwrneiau i deithwyr ar Brif Linell Great Western rhwng de Cymru a Llundain, gyda’r nod o gyflwyno gwasanaethau mwy dibynadwy a chyflymach, trenau newydd a mwy o seddi.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer gorsaf Parkway Gorllewin Cymru, ger Abertawe, i wella’r cysylltiad i deithwyr yn y de a gorllewin Cymru.

Ymateb S4C

Gyda phencadlys S4C bellach wedi ei hen sefydlu yn y gorllewin, mae hyn yn newyddion da i bawb sydd angen teithio o’r naill le i’r llall, yn ôl Cadeirydd S4C, Huw Jones.

 

“Rwy’n croesawu datblygiad Parcffordd Gorllewin Cymru ac yn arbennig y ffaith y bydd y buddsoddiad yma’n torri ar y siwrne ar y trên rhwng Caerfyrddin a Chaerdydd,” meddai Huw Jones

 

“O ystyried prysurdeb Gorsaf Ganolog Caerdydd, bydd yr ail-ddatblygu yno hefyd yn newyddion da wrth i S4C baratoi i gydleoli gyda’r BBC yn Sgwâr Canolog y ddinas.