Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enw dyn 21 oed a fu farw wedi digwyddiad yng nghanol Caerdydd yn gynnar fore dydd Sul (Gorffennaf 21).

Cafodd Asim Khan o Grangetown ei drin gan y gwasanaethau brys ar y safle a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd ond bu farw o’i anafiadau yn ddiweddarach.

Mae ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Cafodd dyn 27 oed ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth ac yn awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad neu a oedd wedi gweld rhywun yn ffoi o’r safle.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 4.50yb i Heol Eglwys Fair yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Yn ôl yr heddlu, roedd ffrwgwd ger bwyty McDonald’s a siop Oxfam, ac fe gwympodd y dyn i’r llawr ar ôl cael ei drywanu.

Mae lle i gredu bod y sawl oedd yn gyfrifol wedi rhedeg i ffwrdd i gyfeiriad Heol Wood ac yna i gyfeiriad Heol Penarth y tu ôl i orsaf Caerdydd Canolog.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111, gan nodi’r cyfeirnod 1900265784.