Mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud y bydd newidiadau sy’n debygol o gael eu cynnig i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yn peryglu cyflenwad bwyd Ewrop, ac yn ergyd enfawr i ddiwydiant amaeth Cymru.

Daw’r pryderon wrth i’r diwydiant glywed sïon y bydd newidiadau i’r polisi cymorth amaethyddol yn golygu bod mwy o dir amaethyddol Ewrop yn cael ei neilltuo er mwyn cadwraeth, gan olygu bod llai ar gael i gynhyrchu bwyd.

Yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Emyr Jones, byddai cynnig o’r fath yn anwybyddu’r broblem fawr sy’n wynebu Ewrop ar hyn o bryd o ddiffyg sicrwydd bwyd.

“Llynedd roedd  yr Undeb Ewropeaidd yn cydnabod bod peryglon yn wynebu Ewrop dros y blynyddoedd nesaf ynglŷn â phrinder bwyd, ac fe ddywedon nhw mai dyna oedd blaenoriaeth y diwydiant nawr,” meddai Emyr Jones.

“Ond os yw’r cynigion diweddaraf yn cael eu derbyn, bydd tir yn cael ei dynnu allan o’r system, a bydd lefel cynhyrchu bwyd ar draws yr Undeb Ewropeaidd yn gostwng,  a bydd cymunedau amaethyddol ar draws Cymru yn cael eu tanseilio.”

Dywedodd Emyr Jones wrth Golwg360 y byddai cynnig o’r fath yn “gyfle wedi ei golli” gan yr Undeb Ewropeaidd.

Rhybuddiodd hefyd y gallai’r methiant i daclo’r broblem yma ohirio’r cytundeb ar ddiwygio PAC.

Roedd disgwyl i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n swyddogol heddiw, ond mae’r cyhoeddiad wedi cael ei ddal yn ôl ychydig oherwydd dadlau dros agweddau o’r cynigion.

Beirniadu elfennau ‘mwy gwyrdd’

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr NFU hefyd wedi beirniadu’r elfennau “mwy gwyrdd” sy’n debygol o gael eu cyflwyno gan y cynigion diweddaraf i ddiwygio’r PAC.

Yn ôl Ed Bailey, Llywydd NFU Cymru, byddai Polisi Amaethyddol diwygiedig o’r fath ar ôl 2014 yn rwystr, nid help i ffermwyr Cymru wrth geisio ateb gofynion y farchnad a’r boblogaeth.

Tra’n mynychu cyfarfod â’r Comisiynydd Amaeth Ewropeaidd, Diacan Ciolos, ym Mrwsel, dywedodd Ed Bailey fod y “rheolau ar dir pori, tyfu cnydau, ac ail-gyflwyno tir wedi ei neilltuo, yn amharu ar ein gallu i fod yn gystadleuol, yn amharu ar ein gallu i newid ar gyfer marchnadoedd newydd ac amgylchiadau hinsawdd.”

Dywedodd y byddai’n “gweithio’n galed er mwyn sicrhau mesurau gwyrdd sydd ddim yn amharu ar y gallu i gynhychu, ac sy’n rhwydd eu gweithredu a’u monitro.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg 360 na fyddai ganddyn nhw sylw i wneud ar y cynigion nes bod y Comisiwn Ewropeaidd yn eu cyhoeddi’n swyddogol.