Mae cynghorau Caerdydd a Chasnewydd yn cefnogi’r alwad am greu pwerdy economaidd a fyddai’n cwmpasu’r holl ardaloedd rhwng Abertawe a Swindon.

Maen nhw’n dweud y byddai creu’r pwerdy’n cryfhau economi’r ardal yn wyneb Brexit, gan gynnwys cryfhau diwydiant a chysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr.

Mae hynny wedi’i hwyluso gan ddileu tollau pontydd Hafren, yn ôl yr adroddiad.

Ers i’r adroddiad blaenorol gael ei gyhoeddi yn 2016, mae Cytundeb Datganoli Gorllewin Lloegr, Cytundeb Dinas Ranbarth Caerdydd a Chytundeb Dinas Bae Abertawe i gyd yn eu lle.

Y cynnig newydd

Fe fyddai’r pwerdy’n seiliedig ar Bwerdy Gogledd Lloegr, y pwerdy a gafodd ei sefydlu yn Lloegr er mwyn sicrhau llewyrch economaidd y tu allan i dde-ddwyrain y wlad.

Mae’r pwerdy sy’n cael ei gynnig yn canolbwyntio ar goridor yr M4 – ardal sy’n cwmpasu dinasoedd Abertawe, Caerdydd, Casnewydd Bryste, Caerfaddon, Caerloyw a Swindon, sydd â chyfanswm poblogaeth o 4.4m.

Mae’r ardal dan sylw eisoes yn cynnwys tair dinas ranbarth, sef Gorllewin Lloegr, Caerdydd, Bae Abertawe ac mae’r cynnig diweddaraf hefyd yn awgrymu creu dinas ranbarth Canol Swydd Gaerloyw.

Rhwng y pedair rhanbarth, mae trwch o’r boblogaeth yn cymudo i’r gwaith, yn aml o Gymru i Loegr neu o Loegr i Gymru.

Yn yr ardal honno, mae deg o brifysgolion y byddai modd manteisio ar sgiliau eu myfyrwyr, meddai’r adroddiad.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnig cyfres o argymhellion i’w hystyried ar gyfer y cynllun, gan gynnwys:

  • datblygu strategaeth pwerdy sy’n tynnu sylw at gryfderau cyffredin y gwahanol ardaloedd o fewn y pwerdy
  • creu cynllun is-adeiledd gan ganolbwyntio ar ffyrdd o gysylltu rhwydweithiau trafnidiaeth
  • creu cynllun rhanbarthol ar gyfer masnach a buddsoddi ar lefel ryngwladol
  • sicrhau bod cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ar gael mewn ardaloedd difreintiedig o fewn ffiniau’r pwerdy
  • cytuno ar amserlen gan gydweithio â llywodraethau Cymru a Phrydain, cynghorau lleol, sefydliadau busnes a phrifysgolion, ac unrhyw bartneriaid eraill.