Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn yng nghanol dinas Caerdydd fore heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 21).

Cawson nhw eu galw i Heol Eglwys Fair am oddeutu 4.50 yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Dydy’r dyn fu farw ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ac mae’r ymchwiliad i’w farwolaeth yn mynd rhagddo.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.