Mae Gweinidog ym Miwmares wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd ail Fardi Gras Gogledd Cymru yn cael ei gynnal yn Ynys Môn flwyddyn nesaf ar y sail ei fod yn “hyrwyddo ffordd o fyw hoyw i blant”.

Dywedodd ei fod am geisio “estyn allan” i ddangos i bobl bod gan “efengyl  Iesu Grist y grym i newid pobl.”

Fe gafodd Mardi Gras hoyw cyntaf Gogledd Cymru ei gynnal fis Ebrill diwethaf ar gae Sioe Mona. Fe gafodd yr ŵyl gefnogaeth mudiad Cymorth Cristnogol yng Nghymru oedd yn dweud eu bod yno i “ddathlu amrywiaeth creadigaeth Duw”.

Ond roedd y digwyddiad hefyd wedi denu aelodau sawl grŵp protest oedd yn gwrthwynebu’r Mardi Gras.

Roedd aelodau o grŵp Christian Voice, Caerfyrddin wedi picedu’r digwyddiad ynghyd ag aelodau o rhai eglwysi lleol, gan gynnwys Eglwys Bentecostaidd Elim, Caergybi ac Eglwys Oasis ym Miwmares.

Cyfunrywioldeb yn bechod’

Wrth sôn am yr ŵyl y flwyddyn nesaf, fe ddywedodd Philip Evans o weinidogaeth Oasis ym Miwmares wrth Golwg360 eu bod nhw, fel Cristnogion efengylaidd, yn credu bod “cyfunrywioldeb yn bechod.”

“Rydw i wedi siarad gyda gwahanol bobl sydd yn y gymuned hoyw yn ogystal â rhai oedd yn arfer bod yn rhan o’r gymuned ond sydd wedi dod yn Gristnogion,” meddai.

“Dw i ar ddeall nad yw’r mwyafrif ohonynt eisiau bod yn hoyw. Mae llawer ohonynt wedi dioddef oherwydd eu bod wedi delio â llawer o gasineb, eu bod yn teimlo’n wahanol ac weithiau mae pobl eraill wedi’u herlid.

“Mae gan yr efengyl y grym i newid person. Rydan ni’n nabod llawer o bobl sydd wedi’u newid..” meddai.

Dywedodd y gweinidog ei fod “eisiau estyn allan i bobl gyda’r efengyl.”

“Gyda’r gymdeithas rydan ni’n rhan ohono – mae cyfunrywioldeb yn cael ei hyrwyddo i blant mewn ffordd lle mae pobl yn poeni mwy am fod yn boliticaidd gywir a pheidio codi gwrychyn pobl. Dydw i ddim yn meddwl ein bod ni’n eu helpu drwy beidio dweud y gwir.”

Dywedodd mai’r “gwir yw bod gan efengyl  Iesu Grist y grym i newid pobl heddiw.”

“Mae sawl un rydan ni’n gwybod amdano wedi’u hachub a’u newid drwy’r efengyl,” meddai cyn dweud ei fod yn gobeithio “na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf…”

“Ond, yn sicr, ‘dw i’n meddwl bydd Cristnogion yn mynd yno os yw’n cael ei gynnal. Nid i brotestio nac i dargedu unigolion a dweud na ddylent fod felly. Ond, mynd yno i estyn allan gyda neges yr efengyl… A rhannu straeon am bobl oedd yn gyfunrywiol ond wedi dod allan o’r ffordd o’r fyw hwnnw. Dyw’r mwyafrif o  bobl dw i’n siarad gyda nhw ddim eisiau bod felly”.

‘Hybu cydraddoldebau’
Fe ddywedodd Bryan Owen, Arweinydd Cyngor Môn wrth Golwg360 nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Ynys Môn a bod “hybu cydraddoldebau yn bwysig.”
“Os ydyn nhw eisiau trefnu’r ŵyl yna faswn i ddim yn gwrthwynebu… Mae o’n bwysig bod ni’n hybu cydraddoldebau gwahanol bobl.”