Mae rhai o drigolion Caerdydd yn gandryll gyda bwriad y cyngor i dreblu’r gost o barcio yn rhai o’r meysydd parcio mwyaf poblogaidd.

Bu ymgynghoriad ar gynyddu’r tâl am adael cerbyd ym meysydd parcio Merthyr Road a Penlline Road yn yr Eglwys Newydd, o £1 i £3.50 am hyd at dair awr.

Byddai cynnydd tebyg ym maes parcio Pontcanna a Llandaf, ble byddai’n rhaid i yrwyr dalu £3 am dair awr ym maes parcio Caeau Llandaf a Turning Head, yn hytrach na £1.

Er hyn, byddai’r hawl i aros heb dalu am ddwy awr yn y meysydd parcio dan sylw yn parhau.

Barn y bobol

 “Rydan ni’n byw yn yr Eglwys Newydd ac mae llawer yn dod yno i wneud eu siopau neu i gyfarfod â phobol. Os oes llai o amser ar gael i barcio bydd pobol yn stopio dod yno,” meddai Elinor Shellard wrth golwg360.

Ychwanegodd Wayne ei gŵr: “Byddai siopau yn cael eu heffeithio. Mae’n afiach, mae’r Cyngor yn ecsbloetio pobol gyda cherbydau. Unrhyw beth maen nhw’n gallu ecsbloetio, maen nhw am wneud hynny.”

 Mae David Williams hefyd yn poeni am yr effaith ar lif ymwelwyr, a sut bydd pobol yn mynd o’i chwmpas hi.

“Bydd pobol yn stopio dod yma, ac yn mynd i feysydd parcio’r siopa mawr fel Dewi Sant, sydd yn aml am ddim,” meddai wrth golwg360.

“Fe fydd hyn yn cael effaith fawr ar fusnesau bach. Mae’r meysydd parcio yn ddrud fel y mae hi ar hyn o bryd.

“Mae lot yn defnyddio’r gwasanaeth park and ride – os dw i’n gyrru wna i ddefnyddio’r un yn Radyr.”

“Anodd i bobol hŷn”

 “Pam maen nhw’n gwneud hyn?” gofynnodd dynes arall o Greigiau, y tu allan i Gaerdydd, oedd ddim am gael ei henwi.

“Dw i’n gwybod beth maen nhw’n trio gwneud, sef cael ceir oddi ar y lonydd a chael pobol ar fysiau trwy’r adeg.

“Os ydyn nhw’n gwneud hynny bydd yn rhaid iddyn nhw gael mwy o fysiau, mwy o drenau – mae bysiau am ddefnyddio diesel beth bynnag.

“Sut mae pobol hŷn ac o’r wlad fel fi am ddod mewn i Gaerdydd? Mae teithio ar fysiau yn gallu bod yn flinedig, rydyn ni angen car i fynd o ddrws i ddrws. I bobol hŷn mae’n anodd!”

Ac mae Matt Williams yn cytuno.

“Dw i’n meddwl y bydd llai o bobol yn dod i Gaerdydd, ni fyddai’n dda i’r economi. Mae’n wael iawn,” meddai.

“Bydd busnesau llai yn cael eu gadael i lawr a bydd pobol yn brysio oherwydd y diffyg amser fydd ganddyn nhw.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ymateb.