Bydd modd i ffermwyr ildio cyffuriau anghyfreithlon a’u gosod mewn blychau pwrpasol ar faes Sioe Amaethyddol Llanelwedd, sy’n cychwyn ddydd Llun ac yn para tan ddydd Iau.

Dyma’r tro cyntaf i amnest cyffuriau gael ei chynnal  yn y Sioe Fawr.

Mae’r blychau wedi eu gosod ar y ffordd mewn i leoliadau gwahanol ar faes y sioe ac yn nhref Llanelwedd, gyda’r bwriad i atal cyffuriau rhag cael eu cludo o un lle i’r llall yn ystod yr wythnos.

“Mae’n gam cyfrifol i gael bocsys amnest cyffuriau ar gael yn ystod y sioe ac mae’n arfer safonol ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr,” meddai llefarydd ar ran Grŵp Diogelwch Digwyddiadau’r Sioe.

“Ni chaniateir cyffuriau anghyfreithlon neu gyfreithiol yn unrhyw un o’r lleoliadau yn Llanelwedd a’r cyffiniau felly bydd bocsys amnest ar gatiau’r safle ac yn y dref ar gyfer gwaredu cyffuriau’n ddiogel ac mewn ffordd synhwyrol.”