Carwyn Jones
Rhaid i’r Blaid Lafur ddechrau ennill etholiadau mewn ardaloedd lle mae hi wannaf, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Mae angen gwneud gwell sioe o frwydro am seddi ar gynghorau sir Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro, yn ôl Carwyn Jones.

“Dw i eisiau i ni ddechrau ennill seddi yn yr ardaloedd hynny ble, yn draddodiadol, dydyn ni ddim wedi gwneud mor dda yn yr 20 neu 30 mlynedd ddiwethaf,” meddai.

Yn ystod ei araith yng Nghynhadledd Llywodraeth Leol Llafur Cymru fe ddywedodd fod y blaid wedi cael llwyddiant mawr mewn rhai ardaloedd yn etholiad y Cynulliad, gyda swing anferthol, ond nad oedd hyn i’w weld mor glir wrth fynd fwy fwy tua’r gorllewin.

‘Erydu’

“Rhan o’r rheswm yw fod sylfaen ein ymgyrchwyr wedi ei erydu. Mi oedd gennym ni ymgyrchwyr brwdfrydig ond doedd dim digon ohonyn nhw, ac mi oedd hynny yn golygu nad oedd gennym ni ddigon o bobol allan ar y strydoedd. Mi oedd hefyd yn golygu nad oedd gennym ni ddigon o gynghorwyr oedd yn troi allan wythnos ar ôl wythnos yn ystod yr ymgyrch am fisoedd a blynyddoedd cyn hynny.”

Dywedodd mai’r unig ffordd i unioni hynny oedd bod mwy o gynghorwyr yn cael eu hethol yn yr etholiadau lleol mis Mai, a’i bod yn bwysig fod cynrychiolwyr y blaid Lafur yn ymgeisio ym mhob ardal.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n cael pobol i sefyll yng Nheredigion, Sir Benfro, Powys, Gwynedd, yn yr holl gynghorau hynny yn draddodiadol dydyn ni ddim wedi cael y nifer mwyaf o ymgeiswyr.”

Stori: Anna Glyn