Mae datganiad Cyngor Gwynedd o blaid annibyniaeth i Gymru yn “garreg filltir hanesyddol ar ein taith i annibyniaeth”.

Dyna farn y cynghorydd a gyflwynodd y cynnig gerbron cynghorwyr ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 18) yn galw ar y cyngor sir i “anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed”.

Cafodd y cynnig ei gefnogi gan 42 o gynghorwyr, gyda dim ond pedwar yn pleidleisio yn erbyn, a phump yn atal eu pleidlais.

Yn dilyn cymeradwyo’r cynnig, dywed y Cynghorydd Nia Jeffreys y bydd baner y mudiad YesCymru yn cyhwfan y tu allan i bencadlys y cyngor sir.

Mae hi hefyd yn gobeithio y bydd cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn bresennol yn yr orymdaith i gefnogi annibyniaeth a fydd yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon ddiwedd y mis.

“Symbol hynod o gadarnhaol a phositif”

“Mae symbolau yn hynod o bwysig i unrhyw genedl, i bobol ac i wlad,” meddai Nia Jeffreys wrth golwg360.

“Mae hwn yn symbol bod Cyngor Gwynedd yn datgan ein hunanhyder a’n hunan-barch a’n bod ni’n dweud: ‘na, dydyn ni ddim yn rhy fach, dydyn ni ddim yn rhy dlawd, dydyn ni ddim yn rhy dwp i sefyll ar ein traed ein hunain a gwneud ein penderfyniadau ein hunain’…

“Mae hanes Cymru a hanes pob gwlad yn llwybr o symbolau gwahanol, felly dydw i ddim yn gwneud ymddiheuriad bod hwn yn symbol,” ychwanegodd.

“Mae’n symbol hynod o gadarnhaol a phositif, a dw i’n falch iawn bod pobol ifanc a phlant fy hun a phlant eraill yn clywed bod Cyngor Gwynedd yn gwneud y datganiad hanesyddol a symbolaidd hwn.”