Mae tîm o ogledd Cymru wedi trechu trydydd tîm gorau’r Alban gan roi cryn i sioc i ddilynwyr y bêl gron.

Roedd disgwyl i dîm llawn amser, proffesiyno0l Kilmarnock ennill eu gêm gartref yn erbyn chwaraewyr rhan amser Cei Connah, ond yn y pendraw mi ddaeth y gogs i’r brig â sgôr 2-0 ar y noson.

Gêm i ennill lle yng Nghynghrair Europa oedd hi, ac yn sgil colli mae’r Albanwyr wedi colli pob gobaith o barhau i gystadlu yng ngemau’r cyfandir.

Mi orffennodd y ddau dîm gyda dim ond 10 o chwaraewyr ar y cae wedi i Stuart Findlay (o Kilmarnock) a Ryan Wignall (o Gei Connah) dderbyn cardiau coch.

Sgoriodd Ryan Wignall gôl gyntaf Cei Connah ar ôl 50 munud, a sgoriodd Callum Morris wedi 79 munud.

Bydd y tîm o Gymru yn chwarae yn erbyn Partizan Belgrade, tîm enwocaf Serbia, ar Orffennaf 25.