Mae’r Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 57 blwydd oed o Ystradgynlais.

Fe gafodd y dyn ei ddarganfod yn ei gar ar fynydd Brynaman am 10pm nos Fawrth, 11 Hydref.

Mae’r crwner a pherthnasau’r dyn wedi’u hysbysu o’r digwyddiad.

Nid yw’r Heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus.