Mae swyddogion Llywodraeth Prydain wedi gwadu bod ganddyn nhw gynlluniau a fydd yn cynnwys lladd miliynau o ddefaid ar ôl Brexit heb gytundeb.

Yn ôl Defra (yr Adran ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig), dydy’r cynllun erioed wedi cael ei ystyried.

Mae’r Ysgrifennydd Materion Gwledig, Michael Gove, hefyd wedi wfftio’r mater fel “nonsens llwyr” wedi i Jenny Chapman, llefarydd yr wrthblaid ar Brexit, honni bod cynlluniau yn eu lle ar gyfer lladd a chladdu “hyd at naw miliwn” o anifeiliaid.

Mae arweinwyr y byd ffermio wedi rhybuddio y gall bugeiliaid orfod lleihau eu preiddiau trwy ladd neu roi’r gorau iddi os bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Hydref 31.

Yn ôl Minette Batters, Llywydd yr NFU,  fe all tollau ar allforion i’r Undeb Ewropeaidd olygu y bydd yn rhaid lladd “cyfran sylweddol” o ddefaid oherwydd gorlenwi ym marchnad gwledydd Prydain.

‘Dim cynllun mewn lle’

“Dydy lladd da byw ddim yn rhywbeth y mae’r Llywodraeth yn ei ragweld nac yn cynllunio ar ei gyfer os na fydd cytundeb [Brexit],” meddai llefarydd ar ran Defra.

“Mae gennym ni gynlluniau wrth gefn yn eu lle i leihau unrhyw drafferthion, ond rydyn ni am ddweud yn glir y byddwn ni’n defnyddio ein grym i ymyrryd er mwyn darparu cymorth uniongyrchol i’r sector mwyaf bregus, fel ffermwyr defaid, os bydd angen.”