Mae Neil McEvoy wedi galw ar arweinydd Plaid Cymru i ddangos “arweiniad go iawn” ynghylch ei waharddiad o’r blaid.

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid” ac ym mis Mawrth eleni, fe gyflwynodd e gais i ailymuno.

Fis diwethaf, cafodd y panel a fu’n ystyried ei gais ei ddisodli ar ôl i fanylion am ei waith gael eu datgelu i’r wasg.

Yr wythnos diwethaf mi gyhoeddodd Neil McEvoy na fyddai’n parhau â’i gais.

Mae e eisoes wedi datgelu bod “posibiliad cryf” y bydd yn ceisio eto, a bellach mae’n honni ei fod wedi anfon llythyr at Adam Price yn ymbil arno i ddelio â’r anghydfod.

“Dw i eisiau i Adam Price ddangos arweiniad go iawn tros fater fy aelodaeth – tros y mater ohonof i yn medru sefyll tros Blaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd” meddai mewn cynhadledd i’r wasg ar dydd Iau.

“Dw i’n galw am gyflafareddu, ac am gyfarfod wyneb yn wyneb ag Adam Price. Dw i’n credu bod hi’n rhesymol i mi ofyn am hynny.

“A dw i’n disgwyl iddo dderbyn fy nghynnig.”

“Cyfle hanesyddol”

Neil McEvoy oedd ymgeisydd Plaid Cymru am sedd Gorllewin Caerdydd yn etholiad Cynulliad 2016, ac fe ddaeth yn ail i Mark Drakeford, y Prif Weinidog Llafur.

Dim ond 1176 pleidlais oedd ynddi yn yr etholiad hwnnw, ac mae’r Aelod Cynulliad yn mynnu bod gan Blaid Cymru “gyfle hanesyddol” yn yr etholiad nesaf.

Wrth annerch y wasg, mynnodd hefyd ei fod yntau ac Adam Price ar yr un donfedd.

“Mae Adam eisiau bod yn Brif Weinidog, ac mae Adam eisiau ennill,” meddai. “Dw i eisiau bod Adam yn Brif Weinidog, a dw i eisiau i Blaid Cymru ennill.

“Mae yna gytundeb tros dipyn o bethau.”

Ymateb y blaid

“Penderfynodd Mr McEvoy dynnu ei gais i ail-ymuno â Phlaid Cymru yn ôl,” meddai llefarydd ar ran y blaid.

“Mae Plaid Cymru yn unedig yn ei hamcan i ennill dros Gymru yn 2021.”