Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cael ei beriniadu am gymharu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i “Russian roulette”.

Roedd Kirsty Williams wedi dweud bod asesiad risg gan fyrddau iechyd yn dangos bod diffyg gwasanaethau mewn rhai achosion ar gyfer pobol oedd wedi dioddef trawiad ar y galon neu strôc yn peryglu bywydau cleifion.

‘Chwerthinllyd’

Ond dywedodd Prif Weiniodog Cymru Carwyn Jones bod ei honiadau yn “chwerthinllyd”. Mae Kirsty Williams hefyd wedi cythruddo swyddogion nifer o fyrddau iechyd am achosi pryder i gleifion.

Roedd Kirsty Williams wedi codi’r ddadl yn ystod sesiwn holi ac ateb yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gan ddarllen nifer o asesiadau risg gan ysbytai. Roedd y dogfennau a ddaeth i law’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos nad oedd yr un o bedwar ysbyty cyffredinol bwrdd iechyd Hywel Dda yn gallu darparu’r “gwasanaethau sy’n cael eu hargymell” i gelifion  sy’n cael trawiad ar y galon.

Strôc

Mae  bwrdd iechyd Hywel Dda yn gyfrifol am ysbytai Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Llwynhelyg yn Hwlffordd a Thywysog Phillip yn Llanelli.

Wrth ystyried gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n cael strôc, roedd y bwrdd iechyd yn awgrymu na fyddai “cleifion gyda strôc difrifol yn derbyn y driniaeth sy’n cael ei argymell” gan nad oedd yr offer sydd ei angen ar gael tu hwnt i oriau 9am i 5pm.

Dywedodd Kirsty Williams bod y mater yn “codi cwestiynau difrifol ynglŷn â safon y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y GIG yng Nghymru.”

Ond dywedodd Carwyn Jones nad oedd ei sylwadau o gymorth i’r GIG.