Mae diweithdra wedi codi i’w lefel uchaf ers 17 o flynyddoedd, wrth i fwy na 100,000 o bobol  ymuno â chiwiau’r dôl yn y tri mis diwethaf yn y DU.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, mae hanner y bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed yn ddiwaith, tra bod nifer y bobol sydd yn hawlio budd-dal y diwaith am y seithfed mis yn olynnol wedi cyrraedd 1.6 miliwn.

Yng Nghymru, mae nifer y rhai sy’n ddi-waith wedi cynyddu 16,000 o fewn y chwarter diwethaf, i 131,000.

Mae Llwyodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn gytun bod y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw yn “siomedig iawn” i Gymru a gwledydd Prydain.

Mae diweithdra wedi codi 114,000 yn y DU – i 2.57 miliwn: y ffigwr gwaethaf ers hydref 1994 yn ôl cofnodion. Ac mae cyfradd y di-waith nawr yn 8.1%: y  lefel uchaf ers 1996.

Mae ffigyrau eraill yn dangos fod y nifer o bobol sy’n cael eu dynodi yn ‘economaidd anweithredol’ wedi codi 26,000 – i 9.35 miliwn.

Gan ystyried y cynydd yn y nifer o bobol sydd nawr yn ‘economaidd anweithredol’, ynghyd â’r ffigyrau diweithdra diweddaraf, mae hanner y boblogaeth sydd rhwng 16 a 24 oed nawr heb waith.

Mae nifer y bobol rhwng 16 a 24 oed sy’n ddiwaith wedi codi 74,000 dros y chwarter diwethaf – i 991,000, ar gyfradd o 21.3% – cyfradd sydd gyda’r lefel uchaf ers i’r cofnodion ddechrau yn 1992.

‘Brawychys’

Wrth ymateb i’r ffigyrau diweithdra diweddara sy’n dangos cynnydd mawr yng Nghymru, dwedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Economi Alun Ffred Jones AC bod y ffigyrau diweddara yn “frawychus”.

“Mae’r ffigyrau’n tanlinellu’r angen am becyn cynhwysfawr gan lywodraeth Cymru i fynd i’r afael a’r argyfwng economaidd ar frys.  Mae’n amlwg bod y sefyllfa yng Nghymru’n gwaethygu’n gynt na mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.  Mae’r cynnydd yn nifer y bobl ifainc sy’n ddiwaith, yn enwedig, yn frawychus.

“Mae angen gwario ar gynlluniau adeiladu i roi hwb i’r economi a chreu gwaith ym mhob rhan o Gymru.

“Mae’r argyfwng economaidd yma yn cael effaith ar bobl yma yng Nghymru rwan – ond eto mae Llywodraeth Lafur Cymru’n dal i oedi cyn gweithredu.  Does dim modd i hyn barhau – ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos pam.”

Tra’n cytuno bod y ffigyrau diweithdra diweddaraf yn ergyd i Gymru, mae Llwyodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n parhau i gefnogi busnesau yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Busnes a Menter Edwina Hart:   “Tra bod llawer o’r dulliau macro-economaidd yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth San Steffan, rydyn ni’n parhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi busensau yng Nghymru.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan na fyddai Llywodraeth Prydain yn osgoi’r her o’u blaen yn sgil yr ystadegau diweddaraf, gan gyfaddef bod “yr ystadegau heddiw yn amlwg yn siomedig,” ond bod y Llywodraeth “yn benderfynol o ddelio â’r materion yn uniongyrchol.”

Ddoe fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd gwerth £75 miliwn – Twf Swyddi Cymru – a fydd yn creu 4,000 o swyddi bob blwyddyn am dair blynedd i bobl ifanc ar draws Cymru.