Dylai protestiadau gael eu cynnal naill ai yn y “Cynulliad neu San Steffan”, meddai’r Aelod Cynulliad Andrew RT Davies, wrth i ymgyrchwyr amgylcheddol barhau i atal ffyrdd yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae rhannau o’r ddinas, gan gynnwys Heol y Castell, yn dal i fod ynghau i draffig wrth i brotest y grŵp Extinction Rebellion barhau am y trydydd diwrnod yn olynol.

Mae’r grŵp, sydd hefyd wedi meddiannu dinasoedd eraill ledled gwledydd Prydain fel rhan o’r hyn maen nhw ei alw’n “Wrthryfel yr Haf”, yn galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Ond yn ôl Andrew RT Davies, yr aelod Ceidwadol tros Ganol De Cymru, mae’r amgylcheddwyr wedi mynd gam yn rhy bell, ac mae wedi galw ar yr heddlu a’r cyngor lleol i ymyrryd.

“Annerbyniol”

“Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn fater pwysig iawn ac yn un y mae’r mwyafrif o’r cyhoedd yng Nghymru yn ei gefnogi,” meddai Andrew RT Davies.

“Ond mae dod â’n prifddinas i stop yn annerbyniol, ac mae’n ffordd hawdd o brofi amynedd pobol weithgar sy’n ceisio parhau â’u bywydau beunyddiol.

“Y lle ar gyfer protestio yw naill ai yn y Cynulliad neu San Steffan – nid ar stepen drws busnesau yng nghanol ein dinas.

“Mae angen i’r cyngor a’r heddlu weithredu ar unwaith er mwyn symud y protestwyr a dod â’r aflonyddu hwn i ben.”

Mae Cyngor Dinas Caerdydd a Heddlu De Cymru yn dweud eu bod nhw’n gwneud “cymaint â phosib” i leddfu’r trafferthion sy’n cael eu hachosi gan y brotest.