Peter Hain
Mae colli cynghorwyr yn yr etholiadau lleol yn gallu cael effaith negyddol ar blaid mewn etholiad cyffredinol, yn ôl Ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, Peter Hain.

“Os ydych chi’n edrych ar hanes deng mlynedd Margaret Thatcher a John Major fel Prif Weinidogion yn y llywodraeth Geidwadol, beth ddigwyddodd?

“Fe ddechreuon nhw golli cynghorwyr yn eu miloedd ac wedyn aelodau o’r blaid yn eu degau o filoedd ac ymgyrchwyr ac wedyn mi gollon nhw’r Etholiad Cyffredinol.

“Nawr beth ddigwyddodd pan oedd Llafur yn llywodraethu o dan Tony [Blair] a Gordon [Brown]? Union yr un peth,” meddai Aelod Seneddol Llafur Castell Nedd.

Nid dyma’r unig reswm i’r ddwy blaid golli mewn etholiadau cyffredinol, pwysleisia, ond mae’n ffactor bwysig.

“Os oes gyda chi gynghorwyr lleol gweithgar, cynghorau lleol llwyddiannus, cynghorau llwyddiannus sydd yn cael eu harwain gan Lafur, ac mae gyda chi dîm o ymgyrchwyr ac aelodau yn cefnogi’r cynghorwyr yn eu cymunedau, mae yna ymddiriedaeth yn cael ei adeiladu rhwng y Blaid Lafur a’r pleidleisiwyr lleol.”

Bydd etholiadau yn cael ei gynnal ar gyfer cynghorau sir yng Nghymru fis Mai nesaf ond does dim Etholiad Cyffredinol tan 2015.

Mae Peter Hain yn mynnu fod angen gosod seiliau i lwyddiant y Blaid Lafur.

“Mae ennill yn ôl cynghorau, a chael cannoedd yn fwy o gynghorwyr, os llwyddwn i wneud hynny y tro nesaf, yn sbringfwrdd allweddol er mwyn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf yng Nghymru ac wrth gwrs ym Mhrydain.”

Stori: Anna Glyn