Mae Bwrdd Llywodraethwyr Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) wedi cadarnhau y bydd yr Athrofa’n newid ei henw i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn dilyn y cais llwyddiannus a wnaed i’r Cyfrin Gyngor y llynedd i newid yr enw.

Mae hefyd wedi dweud y bydd yn cefnu ar Brifysgol Cymru ac yn defnyddio ei grymoedd i “ddyfarnu graddau eu hun.”

“Mae’r Bwrdd Llywodraethwyr wedi penderfynu bod angen  defnyddio ein grymoedd dyfarnu graddau ni ein hunain ac i fabwysiadu’r enw newydd ar frys a, thrwy hynny, ddangos yn genedlaethol a rhyngwladol ein bod yn gadael Prifysgol Cymru,” meddai Barbara Wilding, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr UWIC.

‘Angladd barchus’

Eisoes, mae’r Gweinidog Addysg wedi galw am ddod â Phrifysgol Cymru i ben.

Mewn cyfweliad radio fe ddywedodd Leighton Andrews ei bod hi’n bryd rhoi “angladd barchus” i’r corff sydd wedi arwain addysg uwch yng Nghymru ers mwy na 100 mlynedd.

Roedd y sgandal tros golegau sy’n rhoi graddau ar ran y Brifysgol wedi gwneud drwg i enw da addysg uwch yng Nghymru ac i’r wlad ei hun, meddai ar Radio Wales.

Mae Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr yr Athrofa yn credu fod yr enw newydd yn rhoi “mwy o le i’r ddinas” ac yn helpu i gynnal proffil Caerdydd yn y Brifddinas Dysg.

“Mae’r brifysgol hon yn rhan annatod o’r ddinas oddi ar 1865. Edrychwn ymlaen at ddyfodol llewyrchus o dan yr enw newydd ‘Prifysgol Fetropolitan Caerdydd’, fel prifysgol gref, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr a lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Caerdydd a De Ddwyrain Cymru,” meddai Barbara Wilding.

“Yn y dyfodol hyd y gwelwn, cedwir ‘UWIC’ yn rhan o frand newydd y brifysgol”