Fe allai hen gapel Cymraeg yn ninas Lerpwl gael ei drawsnewid yn ganolfan gymunedol wedi 30 mlynedd o fod yn wag.

Mae’r hen gapel Presbyteraidd, sy’n cael ei alw’n ‘Gadeirlan Toxteth’ yn lleol, wedi ei lleoli yn Princes Road yn ardal Toxteth.

Yn ddiweddar, mae perchnogion yr adeilad, sef y Merseyside Buildings Preservation Trust, wedi derbyn addewid o £260,000 gan y Loteri Cenedlaethol er mwyn cynllunio’r gwaith adnewyddu.

Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain at gyllid ychwanegol gwerth £2.5m ar gyfer trawsnewid y capel yn gartref newydd ar gyfer yr elusen KIND, sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer plant difreintiedig Lerpwl.

Cefndir

Cafodd yr hen gapel ei adeiladu rhwng 1865 a 1967, ac mae wedi ei restru yn adeilad Gradd 2 yn yr arddull Gothig Fictorianaidd.

Mae’n un o dri adeilad yn Princes Road a gafodd eu dylunio gan y ddau frawd, William a George Audsley.

Roedd yn cael ei ddefnyddio fel addoldy gan y gymuned Gymraeg yn Lerpwl tan yr 1980au.

“Tipyn o siwrne o’n blaenau”

“Ein gweledigaeth ar gyfer y capel yw i greu canolfan gymunedol anhygoel,” meddai Prif Weithredwr KIND, Stephen Yip.

“Mae yna dipyn o siwrne o’n blaenau, yn ogystal â thipyn o arian i’w godi, ond dw i’n hyderus y gallwn ni, gyda’n cefndir a holl gefnogaeth y gymuned yn Lerpwl, ddod at ein gilydd i greu canolfan a fydd yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion.

  • “Gwyliwch y gofod hwn.”