Mae mwy o swyddogion yr heddlu ar batrôl yn nhref Hwlffordd, Sir Benfro, yn dilyn cynnydd mewn achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, bwriad eu cyrch – o’r enw ‘Operation Spitfire’ – yw mynd i’r afael â’r broblem ynghanol y dref, wedi iddyn nhw dderbyn cyfres o adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar.

Mae’r cynllun yn golygu y bydd timoedd o swyddogion yn patrolio canol y dref yn fwy rheolaidd, yn ogystal â chydweithio â chanolfan ieuenctid lleol sydd wedi ei sefydlu gan y Cyngor Sir.

“Er bod gennym strategaeth ar gyfer lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, hoffwn atgoffa rhieni nad cyfrifoldeb yr heddlu yw gweithredoedd eu plant,” meddai’r Arolygydd Reuben Palin.

“Rydym yn eich hannog i fod yn ymwybodol o’r hyn mae eich plant yn ei wneud, ac ymhle maen nhw’n treulio eu nosweithiau.”