Mae mudiad gweithredu Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) yn tarfu ar lwybrau trafnidiaeth allweddol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 15) fel rhan o brotest ddi-drais a drefnir ar y cyd ledled Cymru, yr Alban a Lloegr.

Bydd y gwrthryfelwyr, a fydd yn achosi tarfiadau dros nifer o ddiwrnodau, yn galw ar lywodraethau gwledydd Prydain i “weithredu nawr i atal colledion bioamrywiaeth a thorri allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net” erbyn 2025.

Mae’r meddiannu a’r tarfiadau yng Nghaerdydd yn rhan o wrthryfel ehangach a elwir ‘Gwrthryfel yr Haf’, sy’n digwydd mewn dinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, sef Caerdydd, Llundain, Bryste, Leeds a Glasgow.

Yn y safleoedd sy’n cael eu meddiannu, bydd Gwrthryfel Difodiant hefyd yn creu cyfleoedd ar gyfer trafodaethau ynglŷn â datrys problemau’r hinsawdd ac adfywio diwylliannol. Lleoedd heddychlon a diogel bydd y rhain, lle bydd croeso i bawb gymryd rhan.

Ym mis Ebrill, gyrrodd Gwrthryfel Difodiant argyfwng yr hinsawdd i benawdau’r newyddion trwy feddiannu pum safle yn Llundain: Oxford Circus, Pont Waterloo, Marble Arch, Sgwâr y Senedd a Piccadilly Circus, gyda’r neges syml: ARGYFWNG YW HWN. Cafodd dros 1,100 o weithredwyr eu harestio, gan gynnwys pobol o Gymru.

Roedd yr ymateb i’r protestiadau, a gefnogwyd gan arweinwyr y mudiad amgylcheddol fel David Attenborough a Greta Thunberg, yn aruthrol, ac o ganlyniad, fe wnaeth Llywodraeth Cymru a San Steffan ddatgan argyfwng hinsawdd.