Mae actor Hollywood o Bort Talbot sydd wedi troi’n ymgyrchydd, yn derbyn anrhydedd gan Brifysgol Caerdydd eleni yr wythnos hon.

Mae Michael Sheen yn actor sgrîn a llwyfan sydd wedi ymddangos mewn tair ffilm sydd wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Academi’r Ffilm Orau yr Oscars, ac mae wedi ennill llu o wobrau am ei berfformiadau ar y llwyfan.

Fe ddaeth i amlygrwydd yn chwarae’r cyn-brif weinidog, Tony Blair, yn ffilm The Queen, ac fe chwaraeodd ran Brian Clough, diweddar reolwr pêl-droed Nottingham Forest yn The Damned United.

Ond mae’n cael ei gydnabod bellach fel ymgyrchydd, drwy ei waith fel Llysgennad UNICEF ac fel sefydlydd ei fudiadau dyngarol ei hun.