Mae torfeydd wedi bod yn heidio i strydoedd y Barri i wylio ffilmio ar gyfer rhaglen arbennig y Nadolig o’r gyfres gomedi Gavin and Stacey.

Mae’r sêr teledu James Corden a Rob Brydon wedi cael eu gweld yno ddoe a heddiw, ac mae addurniadau Nadolig wedi bod yn amlwg ar rai o strydoedd y dref.

James Corden yw cyd-awdur y gyfres gyda Ruth Jones, ac mae golygfeydd sy’n cynnwys car ei gymeriad yn y gyfres wedi denu torfeydd sylweddol.

Fe fydd y rhaglen yn cael ei dangos ar y BBC ddydd Nadolig.