Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn buddsoddiad £30m er mwyn ymchwilio i dechnoleg sat-nav a ffonau clyfar.

Daw’r arian o un o gronfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mi fydd yn arwain at sefydlu safle ymchwilio.

Bydd y safle yma ar gampws y brifysgol ym Mae Abertawe, ac mae disgwyl i’r ganolfan gael ei hagor yn 2021.

“Arwain y ffordd”

“Mae Prifysgol Abertawe yn darparu addysg o’r safon uchaf, ac mae Cymru yn arwain y ffordd yn y maes ymchwil yma,” meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Bydd yr arian yma yn cryfhau hynny… Dw i’n hynod o falch bod Abertawe wedi cael eu dewis i ddatblygu ymchwil yn y maes yma ymhellach.”