Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg wedi galw am ddod â Phrifysgol Cymru i ben.

Mewn cyfweliad radio fe ddywedodd Leighton Andrews ei bod hi’n bryd rhoi “angladd barchus” i’r corff sydd wedi arwain addysg uwch yng Nghymru ers mwy na 100 mlynedd.

Roedd y sgandal tros golegau sy’n rhoi graddau ar ran y Brifysgol wedi gwneud drwg i enw da addysg uwch yng Nghymru ac i’r wlad ei hun, meddai ar Radio Wales.

“Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod y 12 mis diwetha’ i’w resynu. Mae Prifysgol Cymru wedi gwneud cam â Chymru.

“Mae Llywodraeth Cymru’n pryderu’n arw am Brifysgol Cymru.”

Gadael y Brifysgol

Mae’r BBC hefyd yn adrodd bod Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd yn bwriadu gadael y corff a rhoi ei graddau ei hun o dan enw Prifysgol Fetropolitaidd Caerdydd.

Roedd yr Athrofa eisoes wedi tynnu’n ôl o fwriad i ymuno gyda’r Brifysgol a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitaidd Abertawe.

Mae hefyd yn gwrthod awgrym y Llywodraeth y dylai uno gyda Phrifysgol Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg – mae eisiau gweld mwy o gydweithio rhwng prifysgolion ardal Caerdydd.