Mae Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn wedi cael bron i £150,000 at brosiect i adfer Parc yr Esgob yn Abergwili, Caerfyrddin.

Bydd yr arian yn mynd at y gwaith o drawsnewid gerddi a hen dai allanol palas Esgob Tyddewi, sydd yn gartref i Amgueddfa Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal â rhoi sglein ar y gerddi, bydd yr arian yn mynd at wella cyflwr cynefinoedd bywyd gwyllt y parc, gwella mynediad cyhoeddus a throi adeiladau allanol yn gaffi a chanolfan ddehongli.

Fe gafodd yr Ymddiriedolaeth £46,125 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a £100,156 gan Lywodraeth Cymru.

Gwario £1.8m

Dywedodd Louise Austin, Rheolwr yr Ymddiriedolaeth, y byddai’r cyllid yn gwneud gwahaniaeth mawr:

“Mae Parc yr Esgob yn lle arbennig iawn. Mae gan y parc a’r ardd wych fwy nag 800 o flynyddoedd o gysylltiadau hanesyddol a diwylliannol yn ogystal â bywyd gwyllt o bwys cenedlaethol.

“Bydd y grantiau hyn yn helpu mwy o bobl i ymweld, mwynhau a chymryd rhan yn y gwaith o ddiogelu’r hyn sy’n gwneud y safle hwn yn arbennig.”

Hyd yn hyn, mae’r Ymddiriedolaeth wedi codi cyfanswm o £1,881,581 tuag at y prosiect, gan gynnwys £300,000 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin.

“Rydym wrth ein boddau bod yr Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i gael cyllid,” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Mae’r cydweithrediad unigryw hwn yn argoeli bod yn llwyddiant mawr a bydd, dros amser, yn trawsnewid y safle hwn sy’n arwyddocaol yn ddiwylliannol er mwyn i bobl gael gweld ei holl hanesion cudd.”