Mae un o sioeau amaethyddol mwyaf gogledd Cymru wedi penderfynu gohirio holl adrannau’r ceffylau eleni, yn dilyn yr achosion diweddar o ffliw ceffylau.

Sioe Môn yw’r ddiweddaraf i gael ei heffeithio gan y feirws, sydd wedi arwain at ohirio nifer o sioeau bychain ledled y gogledd, gan gynnwys Sioe Caernarfon y penwythnos diwethaf.

Ond mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn mynnu y bydd Sioe Môn yn “parhau fel arfer” rhwng Awst 13 a 14.

Mae’r trefnwyr hefyd yn dweud y byddan nhw’n darparu ad-daliadau ar holl dâl cystadlu’r ceffylau a’r stablau “cyn gynted â phosib”.

“Y prif reswm dros y penderfyniad ydi lles yr anifeiliaid a’r cadarnhad diweddar o achos o’r ffliw ceffylau ar Ynys Môn,” meddai’r trefnwyr mewn datganiad.

Ddechrau’r wythnos, fe gyhoeddodd y Sioe Fawr, a fydd yn cael ei chynnal yn Llanelwedd mewn llai na phythefnos, na fydd hawl i’r un ceffyl sydd heb ei frechu yn erbyn y ffliw ceffylau gystadlu eleni.