Mae’r crwner yn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi codi amheuon ynghylch y gofal sy’n cael ei ddarparu i gyn-weinidogion sydd wedi colli eu swydd yn Llywodraeth Cymru.

Daw’r sylwadau gan John Gittins wrth iddo ddod i’r casgliad bod y diweddar Aelod Cynulliad, 49, wedi marw trwy hunanladdiad.

Cafodd corff y cyn-aelod tros Alun a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017, pedwar diwrnod ar ôl iddo golli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant ym Mae Caerdydd.

Ar y pryd, roedd yn wynebu honiadau o gamymddwyn yn rhywiol tuag at ferched, honiadau yr oedd yn eu gwadu.

Dim gofal wedi ei ddarparu

Wrth ddod â’r cwest i ben yn Rhuthun heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 11), dywedodd John Gittins fod ganddo “bryder” nad oes yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru o ran sicrhau cefnogaeth i gyn-weinidogion.

Ar ddechrau ei gasgliad, fe gyfeiriodd at dystiolaeth a gyflwynwyd gan gyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ynghylch darparu gofal bugeiliol i Carl Sargeant – tystiolaeth a gafodd ei gwrth-ddweud gan yr Aelod Cynulliad, Ann Jones.

Dywedodd y crwner wedyn fod Carwyn Jones – a gafodd ei gyhuddo gan gyfreithiwr teulu Carl Sargeant o ddweud celwydd – wedi cywiro’r dystiolaeth a gyflwynodd yn flaenorol mewn modd “cywir a phriodol”.

Aeth John Gittins yn ei flaen i bwysleisio na fu trefniadau swyddogol ar gyfer darparu cefnogaeth i Carl Sargeant wedi iddo golli ei swydd, er y tebygolrwydd bod Carwyn Jones yn ymwybodol o’i broblemau iechyd meddwl.

“Dim ots beth oedd achos y diswyddiad o’r Llywodraeth, fe wnaeth iechyd meddwl Mr Sargeant ddirywio’n sylweddol ar ôl colli ei swydd,” meddai.

Yr honiadau

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth (Gorffennaf 9), dywedodd gweddw Carl Sargeant, Bernie, fod ei diweddar ŵr wedi bod mewn “sioc lwyr” ar ôl clywed yr honiadau yn ei erbyn.

Ychwanegodd iddi gredu ei gŵr “cant y cant” pan wnaeth eu gwadu, cyn beirniadu’r diffyg cefnogaeth a roddwyd iddo yn dilyn ei ddiswyddiad o Lywodraeth Cymru a’i waharddiad o’r Blaid Lafur.

Roedd cyfreithiwr Carwyn Jones wedi cyflwyno sawl cais er mwyn i dystiolaeth ynghylch yr honiadau o gamymddwyn gael eu clywed yn y cwest, ond fe gafodd pob un eu gwrthod gan John Gittins.