Mae cwmni Network Rail wedi sefydlu tasglu arbennig er mwyn gwella diogelwch gweithwyr ar reilffyrdd.

Daw’r cynllun gwerth £70m ar ôl i ddau ddyn gael eu taro gan drên ger Port Talbot yr wythnos ddiwethaf (Gorffennaf 3).

Yn ôl yr heddlu, mae lle i gredu bod y ddau weithiwr, Michael Lewis, 58, a Gareth Delbridge, 64, wedi methu â chlywed y trên yn dod oherwydd eu bod yn gwisgo offer diogelwch dros eu clustiau.

Mae Network Rail, sydd wedi bod o dan y lach ers y digwyddiad, yn bwriadu gwella systemau o ran rhybuddio gweithwyr ynglŷn ag unrhyw drenau sy’n agosáu.

Maen nhw hefyd am sicrhau bod gweithwyr yn cael eu briffio’n dda cyn cychwyn ar unrhyw waith, a bod eu hiechyd a’u ffitrwydd yn cael eu rheoli’n well.

Gwella diogelwch

Bydd y tasglu newydd yn cydweithio â sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant rheilffordd, yn ogystal â chontractwyr ac undebau gweithwyr.

“Dydw i ddim eisiau gweld gweithiwr arall yn marw ar y rheilffordd,” meddai Prif Weithredwr Network Rail, Andrew Haines.

“Dyna pam yr ydym ni’n creu’r tîm newydd hwn sy’n cael ei gefnogi gan gyllid go sylweddol er mwyn gwneud gwahaniaeth a sicrhau bod gwaith ar y rheilffordd yn ddiogelach i’n pobol.

“Allai ddim meddwl am dasg sy’n bwysicach.”