Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn nhref Llanbedr Pont Steffan heno (nos Iau, Gorffennaf 11) er mwyn lleisio pryderon ynghylch y rhwydwaith 5G.

Mae 5G eisoes ar gael mewn rhai ardaloedd dinesig yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys Caerdydd, ond dyw’r rhwydwaith heb gyrraedd ardaloedd gwledig eto,

Cafodd protest fechan ei chynnal ynghanol Llanbedr Pont Steffan ddechrau’r wythnos lle bu ymgyrchwyr yn rhybuddio’r trigolion lleol ynghylch yr effaith fydd y rhwydwaith newydd yn ei gael ar iechyd pobol, yn enwedig merched beichiog a phlant.

Maen nhw hefyd yn pryderu y bydd yn effeithio ar fân anifeiliaid fel rhai mathau o adar a gwenyn, sydd eisoes yn gostwng o ran eu niferoedd, medden nhw.

‘Dim caniatâd’

Yn ôl yr ymgyrchwyr ymhellach, dylai methiant y llywodraethau yn San Steffan a Bae Cymru i brofi nad yw 5G yn effeithio ar iechyd, fod yn achos pryder.

“Maen nhw’n gweithredu’r peth yma fydd yn effeithio arnom ni, heb ein caniatâd,” meddai Cheryl Hillier, un o’r ymgyrchwyr.

“Does ganddon ni ddim llais ynglŷn â’r mater, ac mae llawer ohonom ni ddim yn hoffi’r syniad o sut fydd y rhwydwaith yn effeithio arnom ni, os nad yw wedi effeithio arnom ni yn barod.”

Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Neuadd Fictoria am 7yh.