Heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 10) mae disgwyl i fab Carl Sargeant, roi tystiolaeth i’r cwest i farwolaeth ei dad,

Mae gweddw Carl Sargeant, cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, eisoes wedi dweud ei bod hi’n credu ei gŵr “100%” nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o’i le cyn ei farwolaeth.

Cafwyd hyd i’w gorff yn eu cartref ar Dachwedd 7, 2017, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’i rôl yn Weinidog Cymunedau a Phlant yn dilyn honiadau am ei ymddygiad rhywiol tuag at nifer o fenywod.

Dywedodd Bernie Sargeant fod ei gŵr wedi cael ei “ddinistrio” a’i “dorri” gan yr honiadau, ac mae cyfreithwyr ar ran Llywodraeth Cymru’n honni mai oherwydd ei ymddygiad yr oedd hi’n teimlo “sioc”.

“Na,” meddai wrth ymateb i’r awgrym. “Byddai Carl a fi wedi bod yn briod am 27 o flynyddoedd, roedden ni wedi bod yn briod ers 25 o flynyddoedd ar y pryd…

“Fe wnes i ofyn iddo’n uniongyrchol, ac ro’n i’n credu’r hyn ddywedodd e wrtha’ i gant y cant.”

Llythyr

Mewn llythyr a gafodd ei adael yn agos i’r fan lle cafwyd hyd i’w gorff, dywedodd Carl Sargeant wrth ei deulu ei fod e wedi “eich gadael chi i lawr yn ofnadwy” ac nad oedden nhw’n “haeddu’r sylw negyddol hyn oherwydd fy ngweithredoedd”.

Dywed cyfreithwyr y Llywodraeth fod hyn yn cyfeirio at ei ymddygiad, tra bod ei deulu’n dadlau mai cyfeirio at ladd ei hun yr oedd e.

Clywodd y llys fod Carl Sargeant wedi ffonio’i wraig i ddweud wrthi ei fod e wedi cael ei ddiswyddo yn dilyn ad-drefnu’r cabinet.

Dywedodd mai amlinelliad yn unig o’r honiadau gafodd e, ond nad oedd modd i Carwyn Jones, oedd yn brif weinidog ar y pryd, roi rhagor o fanylion iddo, a bod y mater wedi’i drosglwyddo i’r Blaid Lafur.

Dywedodd Bernie Sargeant fod ei gŵr yn “ddespret am wybodaeth”.

‘Adeg waethaf bywyd fy nheulu’

Dywed Bernie Sargeant fod y teulu – hi a’u plant, Jack a Lucy – wedi teithio i Gaerdydd yn dilyn yr honiadau.

“Dyma adeg waethaf bywyd fy nheulu, a dydy e’n dal ddim yn teimlo’n real,” meddai.

Dywed ei bod hi’n credu y dylai ei gŵr fod wedi derbyn rhagor o gefnogaeth, ac yntau wedi bod yn cymryd tabledi iselder ers rhai blynyddoedd.

Wrth roi tystiolaeth, fe fu Carwyn Jones yn gwadu iddo ddweud celwydd am y gefnogaeth i Carl Sargeant y tro diwethaf iddo roi tystiolaeth.