Fe fu’n rhaid achub 23 o bobol oddi ar arfordir Sir Benfro neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 9), ar ôl i gwch fynd i drafferthion oddi ar yr arfordir.

Roedd 21 o deithwyr a dau aelod o’r criw ar y cwch pan ddechreuodd suddo ger Penmaen Dewi.

Bu’n rhaid galw am gychod a hofrennydd Gwylwyr y Glannau, a llwyddon nhw i dynnu’r teithwyr oddi ar y cwch i ddiogelwch badau achub.

Fe fu’r cwch yn teithio tua thair milltir oddi ar Benmaen Dewi ar y pryd, yn ôl yr awdurdodau.