Roedd Carl Sargeant “mewn sioc llwyr” pan ar ôl iddo glywed honiadau ei fod wedi camymddwyn yn rhywiol yn erbyn merched, yn ôl ei weddw.

Cafodd y diweddar Aelod Cynulliad, 49, ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017, ychydig ddiwrnodau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o Gabinet Llywodraeth Cymru.

Wrth roi tystiolaeth mewn cwest i’w farwolaeth yn Neuadd Sirol Rhuthun, dywedodd Bernie Sargeant fod ei gŵr yn “ysu am wybodaeth” ynghylch yr honiadau yn ei erbyn wedi iddo golli ei swydd yn Ysgrifennydd Cymunedau.

Cyfnod anodd

Aeth Bernie Sargeant yn ei blaen i ddweud bod yr honiadau wedi esgor ar gyfnod anodd i’w gŵr, a fu yn y gorffennol yn ceisio codi ymwybyddiaeth am drais yn erbyn merched.

Ychwanegodd ei bod hi a’r teulu wedi teithio i lawr i Gaerdydd ar Dachwedd 3 er mwyn ei gefnogi, cyn dychwelyd i Gei Connah y dydd Llun canlynol – y diwrnod cyn ei farwolaeth.

“Dyma’r cyfnod anoddaf erioed i fy nheulu, a dyw hi ddim yn teimlo’n real o hyd,” meddai.

Yn ddiweddarach, dywedodd Bernie Sargeant y dylai cefnogaeth fod ar gynnig i unigolion sy’n gorfod wynebu honiadau yn eu herbyn.

“Dydw i byth eisiau i hyn ddigwydd i neb arall. Mae fy mhlant wedi colli eu tad – 609 o ddyddiau yn ôl,” meddai.

“Mae yna wersi i’w dysgu.”

Llythyr anhysbys

Fe gyfeiriodd Bernie Sargeant yn ystod y cwest at lythyr anhysbys a dderbyniodd hi yn 2014, a oedd yn cynnwys honiadau am ymddygiad ei gŵr tuag at ferched.

Dywedodd iddi wfftio’r honiadau ar ôl trafodaeth gyda Carl Sargeant.

“Fe wnaethon ni siarad ynglŷn a’r mater,” meddai. “Doeddwn i ddim yn eu credu, a dyna ei diwedd hi.”